Celfyddydau perfformio

Ben Wright

Oherwydd digwyddiadau anffodus y cyfnod clo, penderfynon ni berfformio cabaret. Roedd yn rhaid i ni gyflwyno fideo byr o rywbeth yn seiliedig ar y celfyddydau perfformio.

Y flwyddyn nesaf, rwy’n gobeithio gwthio fy hun ymhellach a herio fy hun. Prynais esgidiau tap oherwydd, ers dechrau’r flwyddyn, rwyf wedi bod â diddordeb mewn dawnsio tap, felly rwy’n gobeithio dysgu rhywfaint o tap a gweithio ar fy nhechneg ddawns gyffredinol. Ar gyfer canu, rwyf ar hyn o bryd yn defnyddio adnoddau ar-lein i helpu i wella fy nhechneg ganu. O ran actio, rwy’n teimlo mai dyna yw fy mhwynt cryfaf ac y byddaf yn gwella fy sgiliau drwy ddysgu gwahanol dechnegau a ffyrdd o actio.


Caitlin Wait

Rwy’n astudio Celfyddydau Perfformio Lefel 3. Mae fy narn yn ddawns i’r gân ‘Out of the Old’ gan Olivia Rodrigo ac mae’n ymwneud â dilyn eich breuddwydion, camu allan o hen bethau i bethau mwy a gwell a chanfod eich hun. Ar gyfer fy mlwyddyn academaidd nesaf, byddaf yn mynd yn ôl i Goleg Crosskeys i ddechrau fy ail flwyddyn o Gelfyddydau Perfformio, ac rwyf wedi dewis Theatr Gerddorol fel fy ffocws er mwyn gwella fy sgiliau dawnsio a chanu.


Chloe Yemm Ar gyfer y prosiect hwn rwyf wedi penderfynu perfformio monolog o’r llyfr ‘White Open Spaces’ gan Francesca Beard. Mae’r monolog rwyf wedi’i ddewis yn dod o bennod ‘Completely See-Through’. Y rhan rwyf yn ei defnyddio ar gyfer y monolog yw pan mae’r cymeriad, Melanie, mewn tacsi yn siarad â’r gyrrwr am ei phrofiad o briodas yr oedd hi newydd ei gadael, ac mae hi hefyd yn egluro ei phrofiad o wisgo gwisg dryloyw.

Ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf eisiau astudio fy ail flwyddyn o Gelfyddydau Perfformio yng Ngholeg Crosskeys, yna rwy’n gobeithio mynd i’r Brifysgol neu Ysgol Ddrama.


Courtney Fulton Mae’r monolog hwn yn seiliedig ar y sioe deledu Glee, lle mae Rachel a Finn yn siarad am sut mae angen iddynt fynd eu ffyrdd gwahanol. Dewisais y monolog hwn ar gyfer y prosiect cyfnod clo oherwydd rwy’n credu ei fod yn fonolog cryf sy’n caniatáu i mi ddefnyddio sgiliau na fyddwn fel arfer yn eu defnyddio.

Y flwyddyn nesaf, byddaf yn cwblhau ail flwyddyn fy lefel 3. Fy nod yw herio fy hun ymhellach drwy fynd am glyweliadau sydd ar gael. Wedyn, byddaf naill ai’n mynd ymlaen at addysg bellach yn y brifysgol neu’n cael asiant er mwyn cael clyweliadau ar gyfer teledu a ffilm. Hoffaf wneud sioeau cerdd yn y dyfodol, rwy’n meddwl y byddaf eisiau canu, oherwydd mae canu wedi bod yn flaenoriaeth imi, ynghyd ag actio.


Dylan Barry

Mae fy narn wedi dod o sgript fer o’r enw ‘Dark Place’. Dewisais y darn hwn gan fy mod yn teimlo ei fod yn amlinellu’n ofalus y ffaith ein bod i gyd yn cuddio cythreuliaid mewnol ac yn eu hymladd bob dydd. Mae hefyd yn dangos y bobl sy’n colli’r frwydr hon ond yn dianc y seicopath arferol nad yw’n sylweddoli ei fod yn wallgof, mae’r cymeriad hwn yn wahanol gan ei fod yn gweld ei wallgofrwydd. Y flwyddyn nesaf, rwy’n symud ymlaen at flwyddyn 2 o lefel 3 er mwyn gwella fy sgiliau fel perfformiwr ac yn barod ar gyfer y brifysgol a’r ysgol ddrama.


Elen Parry

Rwyf wedi penderfynu cyflwyno dawns ar gyfer fy mhrosiect cyfnod clo.

Y gerddoriaeth rwyf wedi ei dewis yw ‘All I Want’ gan Olivia Rodriguez, sef cân araf a rhamantus ynghylch torcalon a thyfu o hynny. Es ati i goreograffu’r darn drwy gyfuno ballet a thelynegol gan eu bod nhw’n arddulliau araf a mynegiannol tra bod elfennau o waith pointe yn golygu ei fod dal i fod yn dechnegol heriol.

Y flwyddyn nesaf yn y coleg, rwy’n edrych ymlaen at gwblhau fy ail flwyddyn ar y cwrs theatr gerddorol. Rwy’n gobeithio ehangu fy amrywiaeth o arddulliau dawns ymhellach yn ogystal â datblygu yn fy nisgyblaethau eraill.


Eva Lavender Rwy’n mwynhau fy nghwrs gan fod perfformio yn rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud. Mae’r athrawon a’r cyfleusterau anhygoel sydd ar gael imi yn Coleg Gwent yn golygu bod y cwrs yn hyd yn oed fwy pleserus. Dyma fideo ohonof yn canu ‘Read All About It’ gan Emilie Sande. Y flwyddyn nesaf byddaf yn parhau â’m hastudiaethau yn Coleg Gwent ar fy ail flwyddyn o Gelfyddydau Perfformio lefel 3 ac yna, gobeithio, byddaf yn mynd ymlaen i astudio Theatr Gerddorol naill ai yn y Brifysgol neu Ysgol y Celfyddydau Perfformio.


Frederick Bingham 

Perfformiais ddau fonolog gwahanol. Ysgrifennais y cyntaf fy hun, ac mae’r ail fonolog yn dod o’r sioe gerdd “Punk Rock”. Mae’r monolog cyntaf yn trafod y gwahaniaethau rhwng cariad ffôl a chysylltiad dilys, rhamantus, yn ogystal â’r hyn mae’n ei olygu i fod mewn cariad, ac a yw hyd yn oed yn ymarferol ai peidio. Mae’r ail yn fonolog sy’n rhefru ynglŷn â’r llu o faterion sy’n rhemp drwy’r gymdeithas, yn ogystal â syniadau am nihiliaeth a chasineb tuag at ddynolryw.

Rwy’n bwriadu parhau i astudio yn Coleg Crosskeys er mwyn gwella fy sgiliau perfformio ym mhob un o’r tair disgyblaeth, sef actio, canu a dawnsio.


Kenisha Taylor  

Arddull cyfoes modern sydd i’r coreograffi a ddewisais. Mae’n gân o’r enw ‘Black Swan’. Ystyr y darn yw sut mae dawnsiwr yn marw ddwywaith, ond mae’r tro cyntaf yn fwy poenus’. Mae gan artist y gân ei ystyr personol ei hun, ‘wynebu ofn amser penodol os nad yw ei gerddoriaeth a’i berfformiad yn cyrraedd yr un lefel o ystyr a chyffro iddo’

Llwybr dilyniant: Byddaf yn aros yn y coleg ar gyfer fy ail flwyddyn a blwyddyn olaf y cwrs Celfyddydau Perfformio cyn cymryd y cyfle, gobeithio, i fynd i brifysgol ar gyfer addysg bellach.


Lewis Bailey-Robson 

Rwyf wedi penderfynu perfformio monolog o’r ffilm Kill Bill Vol. 2. Yn y monolog penodol hwn, mae Bill yn cymharu ei gyn gariad, Beatrix, i Superman. Yng nghyd-destun ei bod yn berson cryf a phwerus o dan ffasâd roedd hi’n ei defnyddio i aros yn gudd oddi wrtho.

Yn ystod y misoedd nesaf, gobeithio y byddaf yn symud ymlaen at ail flwyddyn Lefel 3 ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau perfformio yn fwy fyth. Nid yn unig yn defnyddio’r hyn rwyf eisoes yn ei wybod, ond hefyd yn dysgu technegau newydd.


Louisha-Dee Hughes

Fy enw i yw Louisha-Dee Hughes a dewisais berfformio monolog ar gyfer fy Narn Perfformio Cabaret. Yn y monolog hwn, mae’n dangos merch yn siarad am sut mae’n cael ei gweld fel rhywun bas ac mae hi wedyn yn mynd ymlaen i siarad am ei phroblemau perthynas presennol. Roeddwn i eisiau perfformio’r monolog hwn gan fy mod eisiau dangos fy mod yn amryddawn ac eisiau herio fy hun drwy chwarae cymeriad gwahanol i’r arfer. Y flwyddyn nesaf, byddaf yn parhau ar y cwrs Celfyddydau Perfformio, ac yna rwy’n bwriadu astudio naill ai actio neu theatr gerddorol yn y Brifysgol


Markie Cobley Ar gyfer fy mhrosiect, rwy’n canu fideo o’r gân Everything I Know o In the Heights. Y rheswm y dewisais y gân arbennig hon, yw am ei bod yn cael ei chanu gan Nina am Abuela Claudia a ddaeth yn nain ddirprwyol i lawer o bobl sy’n byw yn y Barrio, ac yn dilyn ei marwolaeth. Fel rhywun sydd wedi colli nain hefyd, roeddwn i’n teimlo fy mod yn gallu uniaethu â Nina a’r hyn y mae’n ceisio ei gyfleu a’r boen y mae hi’n ei deimlo drwy’r gerddoriaeth. Y flwyddyn nesaf, rwy’n gobeithio parhau gydag Ail Flwyddyn y cwrs Celfyddydau Perfformio, yn benodol ar y llwybr Theatr Gerddorol!


Niall Humphryes Rwy’n perfformio Monolog o’r sioe Wings To Fly a wnaed ar gyfer dysgu plant am beryglon cyffuriau, ac sydd wedi bod yn rhedeg ers dros 20 mlynedd, yn dangos i bob disgybl blwyddyn chwech yn yr ardal. Y cymeriad rwyf yn ei bortreadu yw Splood, person ifanc yn ei arddegau sydd yn breuddwydio am fod mewn band. Rwyf wedi perfformio’r darn hwn ers 2 flynedd bellach ac yn mwynhau bod yn rhan ohono, yn enwedig gan fy mod wedi ei wylio pan oeddwn yn ifanc. Fy nghynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf yw parhau â’r cwrs celfyddydau perfformio, ac ar ôl hynny, gobeithio af ymlaen at ysgol ddrama


Sophie Jones  

Rwyf wedi dewis gwneud darn monolog o’r clasur o ffilm arddegau, Mean Girls. Rwy’n gwneud golygfa fonolog fel y cymeriad Regina George, sef prif ferch gas y stori. Yn yr olygfa hon mae’n siarad â Cady am Janice a pham nad yw hi bellach yn ffrindiau gyda hi. Mae hi’n annifyr yn yr olygfa hon a hefyd yn siarad yn wael am Janice ac yn hel clecs. Dewisais y darn hwn oherwydd ei fod yn hwyl ac mae’n gyfle imi chwarae math gwahanol o gymeriad i’r arfer.

Rwy’n gobeithio y byddaf yn parhau â’m taith gyda’r celfyddydau perfformio Lefel 3 yn yr ail flwyddyn er mwyn gwella fy hun ac i ddatblygu fy astudiaethau, rwy’n gobeithio y byddaf yn cael cyfle y flwyddyn nesaf i feithrin mwy o hyder wrth wella fy ngwaith a dysgu sgiliau newydd.


Aneira-May Evans


Kyle Catalla