Kieran Green, Emma Phippings, Eiliott Wynn, Alicia Reed
The Real Detectorists
Wedi’i ffilmio ar leoliad mewn man cyfrinachol yng Nghymru, mae The Real Detectorists’ yn datgelu stori dau gasgliad o wrthrychau ac arfau o’r Oes Efydd y canfuwyd yn Sir Fynwy yn 2015. Ers hynny, mae’r casgliad wedi’i ddatgan yn drysor.
Daeth datguddwyr metel o hyd i gasgliad o fwyelli a blaenau gwaywffyn, y credir eu bod oddeutu 3,000 o flynyddoedd oed, mewn cae yn Llandeilo Gresynni. Mae’r eitemau yn dyddio’n ôl i 1000-800 CC. Daeth Lee Doyle, Liam O’Keefe, David Owen a John Thomas o hyd i naw blaen gwaywffyn efydd. Mae The Brilliant Bronze Age yn brosiect cymunedol, a arweinir gan Amgueddfeydd Sir Fynwy, sy’n gweithio gyda datguddwyr metel a thirfeddianwyr a Coleg Gwent.