HND mewn Ffasiwn a Thecstilau

Laura Deane

Dyma gynrychiolaeth weledol o waith a grëwyd drwy gydol fy mlwyddyn olaf gan ddefnyddio ystod o dechnegau sy’n archwilio argraffu ffabrig, ffasiwn, tecstilau arwyneb a thrin digidol. Roedd y prosiect Technoleg yn ddiddorol gan i ni archwilio defnyddiau a therfynau’r argraffydd 3D i greu fy nghanlyniad blodau. Roedd gweithio ochr yn ochr â’r cwmni o fri V3 Apparel i greu fy nghasgliad craidd fy hun yn un o uchafbwyntiau pendant y flwyddyn, a chael dealltwriaeth fanwl o sut mae cwmni ffasiwn yn cael ei redeg gan y perchennog Michael. Cefais ysbrydoliaeth o siwt pŵer merched yr 80au a’r Super Tree Grove yn Singapore ar gyfer fy mhrosiect mawr terfynol. Defnyddiais y goleuadau a’r strwythur dur i greu fy ffabrig fy hun, daeth cyfosodiad y llinellau lliw syth a siapiau cromlin â’m gweledigaeth yn fyw.              


Nicole Phillips

Drwy gydol fy mlwyddyn olaf, rwyf wedi bod yn datblygu ac yn mireinio fy sgiliau creadigol drwy amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys un gyda chwmni dillad chwaraeon V3 Apparel a roddodd brofiad gwerthfawr o weithio gyda Briff Byw. Fe’m hanogwyd gan y prosiect Technoleg i arbrofi ymhellach, gan greu dyluniadau arloesol gan ddefnyddio’r dechnoleg argraffydd 3D sydd ar gael i ni. Fy hoff brosiect oedd y prosiect terfynol. Gan gymryd ysbrydoliaeth o riffiau cwrel, creais ddillad yn archwilio’r lliwiau a’r gweadau oddi mewn iddynt drwy gyfuno torri patrymau, llifo naturiol a thechnegau tecstilau. Byddaf yn symud ymlaen i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i orffen fy astudiaethau, gan adeiladu ar yr hyder a’r sgiliau mae’r cwrs hwn wedi’u darparu i mi.