Ava Brook Haigh
Rwy’n 18 ac yn astudio theatr gerddorol ar hyn o bryd ar Gampws Crosskeys. Yn y flwyddyn nesaf, byddaf yn astudio ‘BA anhr addysg gynradd gyda QTS’ ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Rwyf yn edrych ymlaen at gael dechrau’r cwrs hwn a phrofi bywyd Prifysgol. Dewisais y gân hon gan fod ‘Grease’ yn un o fy hoff sioeau cerdd, a phan wyliais y sioe gerdd am y tro cyntaf, roeddwn wrth fy modd â chymeriad ‘Rizzo’ ac yn hoff iawn o’r comedi y tu ôl i’w chân ‘Sandra Dee’.
Connor Whittaker
Yn y fideo hwn, perfformiais ‘Ease My Mind’ gan Ben Platt. Mae Ben Platt yn seren theatr gerddorol Broadway. Serennodd yn y cast gwreiddiol o ‘Dearl Evan Hansen’ ac mae hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau fel ‘Pitch Perfect’ a chyfres Netflix o’r enw ‘The Politician’.
Mae ‘Ease My Mind’ yn gân am ei berthnasoedd â phobl sy’n agos iddo a’i heriau iechyd meddwl. Felly, er fy mod yn mwynhau canu’r gân, rwyf hefyd yn medru uniaethu â hi ar lefel bersonol.
Ar ôl coleg, rwyf am fynd ymlaen i wneud blwyddyn sylfaen ym Manceinion ar gyfer cwrs theatr gerddorol mewn ysgol ddrama. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i barhau ar y daith hon tuag at yr yrfa yr wyf wedi’i dewis ac rwy’n bwriadu perfformio yn y West End.
Elijah Burris
Ar gyfer fy narn cyfnod clo, perfformiais fersiwn acwstig o ‘Beautiful City’ gan Godspell. Roeddwn i’n chwarae gitâr ac yn canu; dewisais chwarae fy hun yn hytrach na pherfformio gyda thrac cefndir i ddangos sut mae pobl wedi bod yn ymarfer a rhoi cynnig ar sgiliau newydd yn ystod y cyfnod clo. Mae’r gân hon yn symboleiddio gobaith a dechreuadau newydd, ac rwy’n meddwl ein bod oll yn profi hyn ar hyn o bryd, ac yn mynd i brofi hyn drwy gydol y sefyllfa bresennol
Llinell gyntaf y gytgan yw ‘we can build, build a beautiful city’, a gall y llinell hon ei hun fod yn gysylltiedig ag ailadeiladu cymdeithas a’r economi yn y dyfodol.
Y flwyddyn nesaf, byddaf yn astudio Theatr Gerddorol (Bygythiad Triphlyg) ym Mhrifysgol Chichester.
Elysia Dimitrakis
Penderfynais ganu cân gan fy mod yn hyderus yn y maes hwnnw. Cefais drafferth dod o hyd i gân i ddechrau, ond cefais hyd i gân rwyf wrth fy modd yn ei chanu o’r enw ‘Reflections’ o’r ffilm Disney ‘Mulan’. Rwyf wedi cael adborth cadarnhaol yn ôl ar ôl canu’r gân hon, felly rwy’n meddwl ei fod wedi bod yn ddewis gwych.
Rwyf wedi bod yn perfformio ers imi fod yn ddwy yn y sioe “The Wizards of Oz” ac rwyf wedi parhau i berfformio drwy gydol fy mywyd yn yr ysgol, clybiau drama a’r coleg. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddaf yn parhau gyda fy ngwersi canu, clybiau drama ac yn dechrau Maddog a, gobeithio, y BBC. Byddaf yn parhau i ddysgu fy nghrefft.
Emily Hawkins
Ar gyfer fy narn perfformiad cabaret, dewisais berfformio’r gân ‘Somebody, Somewhere’ o’r sioe gerdd ‘The Most Happy Fella’. Roeddwn i eisiau recordio’r darn i ddangos cyferbyniad rhwng y caneuon a’r cymeriadau yr wyf fel arfer yn eu portreadu fel mynegiant o’m hyblygrwydd fel perfformiwr, a hefyd fy hiraeth presennol i gael gweld fy nghariad eto, oherwydd nid wyf wedi ei gweld ers dechrau’r cyfnod clo. Rwyf wedi cael fy nerbyn i 2/3 o fy newisiadau prifysgol hyd yn hyn, ac yn disgwyl clywed yn ôl gan fy sefydliad dewis cyntaf, GSA.
Georgia Bird
Dewisais berfformio monolog o’r ddrama “The Oh F**K Moment” ar gyfer ein prosiect diwedd blwyddyn yn ystod y cyfnod clo. Mae’r ddrama hon yn gomedi ynghylch sgwrs gyda phobl sydd wedi gwneud llanast o rywbeth ac yn ddigon dewr i gyfaddef eu bod wedi, felly mae’n ddathliad o gamgymeriadau pobl. Dewisais fonolog o’r ddrama hon oherwydd rwyf wir yn hoffi sut mae profiadau chwithig pobl yn cael eu troi i fod yn rhywbeth doniol, oherwydd mae pawb yn gwneud camgymeriadau ac weithiau mae’n rhaid i ni chwerthin. Ar ddiwedd y flwyddyn hon, rwy’n gobeithio cael swydd sy’n cynnwys elfennau o theatr gerddorol.
Hannah Thomas
Canais There Are Worse Things I Could Do. Penderfynais ganu’r gân hon oherwydd fy mod yn llawer llai cyfforddus yn canu o gymharu â pherfformio monolog. Mae’r gân hefyd allan o un o fy hoff sioeau cerdd, Grease, sef y sioe gyntaf i mi ei gweld ar lwyfan. Y flwyddyn nesaf, byddaf yn astudio Theatr Gymunedol ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Jake Jeremiah
Darnau unigol Officer Lockstocks o fonolog agoriadol Urinetown. Lockstock yw’r adroddwr sy’n torri’r 4ydd wal, ac yn y rhan hon, mae’n dangos i’r gynulleidfa yr hyn y maent angen eu gweld er mwyn deall y sioe.
Rwy’n bwriadu cymryd blwyddyn allan i weithio, ennill arian tra’n perfformio mewn cynifer o gynyrchiadau â phosibl tra’n mynychu dosbarthiadau Canu a Dawnsio er mwyn i mi allu paratoi fy hun yn well a gwella fy sgiliau er mwyn gwneud cais i ysgol ddrama, a gobeithio dechrau fy ngyrfa yn y celfyddydau perfformio.
Mackensie Reardon
Dewisais ganu’r gân ‘Andante, Andante’ o Mamma Mia 2, ar gyfer prosiect cyfnod clo diwedd blwyddyn, am y rheswm syml fy mod wrth fy modd â’r ffilm/sioe gerdd hon ers i mi ei gwylio gyntaf ar ddechrau’r cyfnod clo. Dewisais y gân hon yn benodol, gan fy mod wrth fy modd â’r neges y tu ôl i’r geiriau ac ystyr y teitl. Mae ‘Andante’ yn golygu’n araf yn Eidaleg, sydd, yn y cyfnod presennol hwn, yn gynrychioliad perffaith o fywyd bob dydd. Ar ddiwedd y flwyddyn hon, rwy’n gobeithio cael swydd llawn amser sy’n cynnwys elfennau o theatr gerddorol mewn rhyw ffordd.
Mary Dean-Calnan Mae’r darn hwn rwyf wedi ei roi at ei gilydd yn ailberfformiad o olygfa a osodwyd mewn asiantaeth garu o sioe deledu o’r enw ‘The League of Gentlemen’. Rwyf wedi dewis gwneud yr olygfa hon gan fy mod yn teimlo y gallaf ei pherfformio’n dda, wrth hefyd ddangos fy hyblygrwydd fel actores gan fy mod yn chwarae dau gymeriad gwrthgyferbyniol o fewn y darn. Rwyf yn cymryd blwyddyn allan oddi wrth addysg i benderfynu beth i’w wneud yn y dyfodol, fodd bynnag, mae prentisiaeth cynhyrchu cyfryngau gyda’r BBC ar gael, sy’n swnio’n eithaf apelgar i mi.
Megan Elizabeth Tompkins
Mae’r darn rwyf wedi penderfynu ei berfformio yn gân o’r sioe gerdd, Heathers. Rwyf yn canu’r gân “Lifeboat” sydd wedi ei chanu gan Heather Macnamara yn y sioe gerdd. Penderfynais ganu’r gân hon oherwydd rwy’n credu ei bod yn dangos fy ystod yn dda a gallaf wir uniaethu â’r gân.
Llwybr dilyniant: Rwy’n gobeithio dod yn ganwr llawn amser ym mharciau gwyliau Haven, ond rwyf ar hyn o bryd yn perfformio ar benwythnosau mewn tafarndai fel artist unigol, sy’n rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr. Rwy’n gobeithio parhau i berfformio yn y dyfodol a sefydlu fy ngrŵp drama amatur fy hun.
Tomas Edmunds
Mae fy narn yn fonolog ddychanol o ddrama o’r enw White People’ a ysgrifennwyd gan J. T Rogers. Yn y monolog hwn mae fy nghymeriad yn bod yn hiliol tuag at bobl dduon, ond hefyd yn derbyn yr hyn mae’n ei ddweud oherwydd ei fod yn gwybod na all newid bod pobl dduon yn rhan o’i ‘gymuned’, mae mân bethau y mae’n gweld yn ei wylltio, ac mae’n lleisio ei bryderon yn blaen gyda’i gyd-weithiwr gwyn.
Yn y flwyddyn academaidd nesaf byddaf yn astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Llundain, yn astudio BA mewn Actio.